logo Ysgol Waunfawr

Antur Waunfawr

Mae pawb yn Ysgol Waunfawr yn ymwybodol o bwysigrwydd y gymuned. Mae perthynas arbennig rhwng yr ysgol a'r gymuned leol ac amlygir y cysylltiad mewn amryfal ffyrdd. Amlygir y diddordeb cymunedol byw hwn pan gynhelir achlysuron yn enw'r ysgol, boed dathliad, apêl, perfformiad neu wasanaeth, ac mae adroddiadau o'r digwyddiadau amrywiol hyn yn ogystal â chofnod o lwyddiannau unigolion yn rhan hanfodol o gynnwys misol y papur bro.]

Cynhelir nifer o weithgareddau yn y Gymuned. Megis canu carolau yn yr Antur ddiwedd mis Tachwedd , difyrru aelodau Sefydliad y Merched ddydd Gwyl Dewi a chefnogi Eisteddfod Bentref Waunfawr.

Mae gennym gysylltiad agos âg Antur Waunfawr.Bydd ein ffrindiau o’r Antur hefyd yn cyd-weithio â’r plant bob gwanwyn i ddatblygu gardd yr ysgol ac i ofalu am y blychau planhigion yn yr ardd a ger mynedfa’r ysgol. Rydym hefyd yn cefnogi cynllun Ail gylchu dillad gyda’r Antur, cesglir dillad yn y bin glas yn dymhorol.

Pennaeth: Mrs Bethan Wyn Jones, Ysgol Waunfawr, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd LL55 4LJ
[t] 01286 650451 - [e] bethan.jones@waunfawr.ysgoliongwynedd.cymru

Rhannu'r Dudalen Hon / Share This Page

Bookmark and Share


© 2023 Hawlfraint Ysgol Waunfawr - Gwefan gan Delwedd